Rydym yn cynnig cefnogaeth Taliadau Uniongyrchol fel dewis amgen i gael cymorth a drefnir yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Beth yw taliadau uniongyrchol?
Arian a roddir i unigolion gan eu hawdurdod lleol yw taliadau uniongyrchol, i’w galluogi i brynu a rheoli eu gwasanaethau cefnogol eu hunain yn hytrach na bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu’n uniongyrchol. Gallai hyn olygu bod rhywun yn cyflogi Cynorthwyydd Personol (PA), yn prynu gwasanaeth asiantaeth gofal neu’n prynu gofal ysbaid sy’n eu galluogi i fyw yn y gymuned gyda chymorth.
Mae taliadau uniongyrchol yn ddewis amgen i ddarpariaethau gofal eraill gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel gofal cartref a gofal dydd ac ati, a’u nod yw grymuso pobl anabl i gael mwy o ddewis, i gymryd mwy o reolaeth o’u bywydau ac i wneud mwy o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu ffordd o fyw.
Maen nhw’n galluogi pobl anabl i sicrhau cymorth gyda byw o ddydd i ddydd ar amseroedd ac achlysuron o’u dewis nhw, a hynny yn y cartref ac oddi cartref, a gall helpu unigolion a chanddynt anghenion cymorth i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na mynd i ofal preswyl.
Mae opsiwn i unrhyw un sydd wedi cael eu hasesu yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymunedol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ofyn, neu gael rhywun arall i ofyn ar eu rhan, am dderbyn taliadau uniongyrchol yn hytrach na gwasanaethau wedi’u trefnu’n uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
Cysylltwch â’n tîm:
Ar gyfer Ymholiadau Cyflogres:
Ar gyfer ymholiadau cyflogres yng Nghasnewydd, cysylltwch â Thîm Taliadau Uniongyrchol Diverse Cymru 02920 368888
E-bost: newportdp@diverse.cymru.gov.uk
Pob Ymholiad Arall:
Ar gyfer ymholiadau yng Nghasnewydd nad ydyn nhw’n ymwneud â chyflogres, cysylltwch â Thîm Taliadau Uniongyrchol Cyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656
Ar gyfer Ymholiadau Cyflogres:
Ar gyfer ymholiadau cyflogres yn Abertawe, cysylltwch â Thîm Taliadau Uniongyrchol Diverse Cymru 02920 368888
E-bost: swanseadp@diverse.cymru
Pob Ymholiad Arall:
Ar gyfer ymholiadau yn Abertawe nad ydyn nhw’n ymwneud â chyflogres, cysylltwch â Thîm Taliadau Uniongyrchol Cyngor Abertawe ar 01792 636445
Holl Ymholiadau:
Cysylltwch â Thîm Taliadau Uniongyrchol Diverse Cymru 02920 368888
E-bost: gwynedddp@diverse.cymru
Ar gyfer beth y gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol?
Gellir defnyddio arian taliadau uniongyrchol mewn amryw o ffyrdd:
- Gellir ei ddefnyddio i gyflogi cynorthwywyr personol sy’n darparu cefnogaeth gyda byw o ddydd i ddydd. Mae angen i’r sawl sy’n derbyn y taliad uniongyrchol, fel cyflogwr, fod yn ymwybodol o unrhyw gyfraith cyflogaeth berthnasol a sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cyflawni.
- Gall pobl ddewis prynu gwasanaethau gan asiantaeth o’u dewis nhw, ar yr amod fod yr asiantaeth yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Mae’n bosibl cael pecyn gofal cymysg sy’n defnyddio PA ac asiantaeth neu’n cyfuno taliadau uniongyrchol gyda darpariaethau eraill gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarch anghenion unigolion.
Ni ellir defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau preswyl neu wasanaethau’n uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
Mae rhai cyfyngiadau ar argaeledd taliadau uniongyrchol, oherwydd mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n derbyn y taliadau, neu rywun ar eu rhan, fedru ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli’r trefniadau cymorth.
Mae taliadau uniongyrchol yn wirfoddol, felly ni ellir gorfodi unrhyw un i’w derbyn, a gellir eu darparu fel gwasanaeth parhaus neu dros dro neu fel trefniant tymor byr yn ôl y galw.
Pwy sy’n gallu cael taliadau uniongyrchol?
Mae’n bosibl derbyn taliadau uniongyrchol os yw unigolyn wedi cael eu hasesu’n gymwys gan weithiwr cymdeithasol a’u bod yn un o’r canlynol:
- Person anabl 16 mlwydd oed neu hŷn gyda nam corfforol, nam iechyd meddwl, neu anabledd dysgu
- Person hŷn (unrhyw un 50 mlwydd oed neu hŷn)
- Teulu gyda phlentyn anabl (gellir gwneud taliadau uniongyrchol i bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl i’w rheoli ar eu rhan)
- Gofalydd person anabl
Os nad oes gan yr unigolyn gapasiti i roi eu caniatâd i gael taliadau uniongyrchol, yna gall ‘Unigolyn Addas’ wneud cais i dderbyn a rheoli’r taliadau uniongyrchol ar eu rhan. Dan yr amgylchiadau hyn, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal asesiad i benderfynu a yw’r un a benodwyd yn addas ac i sicrhau y byddan nhw’n gweithredu er lles pennaf yr unigolyn.
Amodau Eraill
Mae amodau eraill sy’n penderfynu a fydd unigolyn yn cael derbyn taliadau uniongyrchol. Er na ystyrir y rhain o reidrwydd yn feini prawf cymhwysedd, rhaid i’r sawl sy’n derbyn eu hystyried wrth benderfynu ai taliadau uniongyrchol yw’r opsiwn gorau.
- Dylai’r unigolyn allu ymdopi â gofynion byw’n annibynnol gydag ychydig o gymorth.
- Rhaid iddynt gytuno i gymryd rhan a chydweithio â’r gefnogaeth sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cefnogi Taliadau Uniongyrchol a gwasanaethau eraill y cytunwyd arnynt.
- Rhaid iddynt ddeall eu cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau, a gytunwyd arnynt yn eu cynllun cefnogaeth, o ran cadw eu cartref yn amgylchedd gwaith diogel.
- Rhaid iddyn nhw beidio â bod yn fygythiad sylweddol i iechyd a diogelwch staff cefnogi neu’r cyhoedd.
- Mae’n rhaid, os oes angen, gallu rheoli eu meddyginiaeth eu hunain.
Oherwydd deddfwriaeth benodol sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol ac iechyd meddwl, mae rhai pobl nad ydynt yn gallu derbyn Taliadau Uniongyrchol.
Sut mae Taliadau Uniongyrchol yn gweithio?
Mae’n rhaid i daliadau uniongyrchol gael eu talu i mewn i gyfrif banc ar wahân i’r un y mae’r unigolyn yn ei ddefnyddio ar gyfer bancio bob dydd; mae hyn oherwydd bod yr arian sy’n cael ei dalu allan, a gaiff ei ddynodi ar gyfer prynu gofal a chymorth, yn cael ei dalu yn lle gwasanaethau’r awdurdod lleol ac felly, ystyrir mai’r awdurdod lleol sy’n berchen ar yr arian hwn o hyd.
Felly, mae angen cadw dogfennaeth i ddangos mai dim ond ar y gwasanaethau gofal a chymorth a gyflwynir yng nghynllun gofal yr unigolyn mae’r arian yn cael ei wario. Gall y dogfennau hyn, sy’n angenrheidiol ar gyfer archwiliadau rheolaidd, gynnwys amserlenni, slipiau cyflog, cofnodion gwyliau blynyddol, anfonebau gan asiantaethau a chofnodion cyfrifon cyffredinol, yn dibynnu ar ba opsiwn cefnogaeth mae’r unigolyn yn dewis ei brynu.
Caiff taliadau uniongyrchol eu rhoi yn y cyfrif bob 4 wythnos fel arfer, ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar yr awdurdod lleol.
Caiff awdurdodau lleol roi ffi ar eu gwasanaethau i gynnal asesiad ariannol i weld a oes rhaid i unigolyn dalu ‘cyfraniad gofal’ tuag at y cymorth maen nhw’n ei dderbyn. Yng Nghymru, mae hyn yn destun uchafswm o £100 yr wythnos ar hyn o bryd.
Cyfrifoldebau ac ymrwymiadau
Wrth ddewis taliadau uniongyrchol mae rhai ymrwymiadau y mae’n rhaid cytuno arnynt a chadw atynt. Bydd gan yr awdurdod lleol set o delerau ac amodau, ac efallai y bydd angen eu llofnodi, a fydd yn cyflwyno’r cyfrifoldebau hyn.
Os bydd rhywun yn penderfynu cyflogi cynorthwywyr personol, mae hyn yn golygu ymgymryd â rôl cyflogwr cyfrifol a’r holl gyfrifoldebau cyfreithiol sy’n dod law yn llaw â hynny. Gall hyn gynnwys recriwtio a chontractio staff, darparu disgrifiadau swydd cyfredol i staff, sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol a rheoli trefniadau o ddydd i ddydd.
Rhaid i gynlluniau wrth gefn, ar gyfer cyfnodau pan fydd gweithiwr i ffwrdd o’r gwaith, yn wael, neu’n bwriadu cymryd gwyliau blynyddol, fod ar waith hefyd. Er bod modd darparu cefnogaeth i gynghori a chynorthwyo gyda’r prosesau hyn, cyfrifoldeb yr unigolyn yw trefnu eu gwasanaethau eu hunain a rhoi’r cynlluniau hyn ar waith.
Mae dyletswydd yn ôl y gyfraith i roi dogfennau cyflogaeth i staff. Mae’n rhaid sicrhau bod contractau, slipiau tâl a dogfennau eraill a gaiff eu llunio yn cael eu rhoi i staff ar gyfer eu cofnodion eu hunain.
Fel cyflogwr, mae cyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn rhesymol ac yn deg a’u bod yn cael eu talu uwchlaw’r isafswm cyflog.
Bydd angen edrych ar ôl iechyd a diogelwch staff a hefyd sicrhau amgylchedd gwaith diogel i unrhyw staff o asiantaeth y mae disgwyl iddyn nhw fynd i mewn i gartref unigolyn. Cynghorir bob amser i unigolion drefnu Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr, yn enwedig wrth gyflogi staff, gan ei fod yn ofyniad cyfreithiol.