Llywodraeth Cymru fydd yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid.
Mae Diverse Cymru yn gweinyddu’r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y Cynllun yn dyfarnu cyllid refeniw a chyfalaf i fudiadau a grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a sefydliadau y mae eu cleientiaid yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig yn bennaf yn y blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2023/25.
Cyn i ni roi cyllid grant i chi, ac yn ystod cyfnod y grant byddwn yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Mae’r gwiriadau hyn yn golygu bod yn rhaid i ni brosesu data personol amdanoch chi. Rydych ‘chi’ yn unigolyn neu’n sefydliad. Os ydych chi’n sefydliad, mae’r cyfeiriad atoch ‘chi’ neu ‘eich’ yn cynnwys eich swyddogion.
Prosesu cyfreithlon
Diverse Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol rydych chi’n eu darparu yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid. Byddwn yn ei brosesu yn unol â gweinyddiaeth y Cynllun i roi cyllid grant ac atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Mae prosesu o’r fath hefyd yn un o ofynion y cyllid grant yr ydych wedi gofyn amdano a bydd yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i dderbyn y cyllid grant.
Beth rydym yn ei brosesu a’i rannu
Mae’n bosibl y bydd y data rydych chi’n ei ddarparu, neu rydym ni yn ei gasglu o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd, yn cael ei rannu ag asiantaethau atal twyll os byddwn yn amau neu’n canfod twyll. Gall y data gynnwys y canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:
- eich enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad preswyl a hanes o ran cyfeiriadau
- manylion cyswllt megis cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
- gwybodaeth ariannol
- manylion cyflogaeth, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol
- adnabod dyfais gan gynnwys eich cyfeiriad IP
- data amrywiaeth buddiolwyr eich prosiect
Efallai y byddwn ni, ac asiantaethau atal twyll, yn defnyddio’r wybodaeth hon, gan gynnwys unrhyw ddata personol, i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Efallai y byddwn ni ac asiantaethau atal twyll hefyd yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i gael gafael ar eich data personol a’i ddefnyddio i ganfod, ymchwilio ac atal troseddau.
Gall asiantaethau atal twyll gadw eich data personol am wahanol gyfnodau o amser, yn dibynnu ar sut mae’r data hwnnw’n cael ei ddefnyddio. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Os ystyrir eich bod yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, gall asiantaethau atal twyll gadw eich data am hyd at 6 blynedd ar ôl ei dderbyn.
Bydd Diverse Cymru yn rhannu gwybodaeth a gesglir oddi wrthych chi a’ch sefydliad a ddarperir gennych chi neu a gesglir gan Diverse Cymru, yn ystod y cyfnod ymgeisio a gwybodaeth monitro prosiect parhaus, â Llywodraeth Cymru at ddibenion cyfleu effaith y Cynllun.
Gall Diverse Cymru neu unrhyw drydydd parti sy’n gweithredu ar ran Diverse Cymru gysylltu â chi at ddibenion ymchwil a gwerthuso i roi adborth ar eich profiad o’r prosiect. Bydd yr holl wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi a’i chyflwyno’n ddienw.
Canlyniadau prosesu
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir isod.
Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion a ddarperir isod.
Trosglwyddo data
Efallai y bydd rhai asiantaethau atal twyll yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Pan fyddant yn gwneud hynny, maent yn gosod rhwymedigaethau cytundebol ar y sawl sy’n derbyn y data hwnnw. Mae’r rhwymedigaethau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddiogelu eich data personol i’r safon sy’n ofynnol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Efallai y byddant hefyd yn gofyn i’r derbynnydd danysgrifio i ‘fframweithiau rhyngwladol’ a fwriedir i alluogi rhannu data’n ddiogel.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd grant, yn rhydd o’r holl amodau cysylltiedig â’r grant a ddyfarnwyd a bod yr holl daliadau wedi cael eu gwneud.
Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
Eich hawliau chi
Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:
- i gael mynediad at y data personol mae Diverse Cymru yn ei gadw amdanoch chi
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os ydych chi am arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Diverse Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’n cael ei defnyddio neu, os ydych chi eisiau arfer eich hawl dan ddeddfwriaeth diogelu data, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Diverse Cymru
96-98 Stryd Neville,
Caerdydd
CF11 6LS
Rhif ffôn: 029 2036 8888
E-bost: info@diverse.cymru
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: ico.org.uk