Mae’r Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant yn darparu prosiect sy’n seiliedig ar adferiad ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael eu affeithio gan iechyd meddwl gwael.

Rydym yn arddel dull holistig, sy’n defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion sy’n hybu adferiad, grymuso, a byw’n annibynnol yn y gymuned. Gall ein prosiect eich helpu i osod nodau ac adolygu eich cynnydd er mwyn cyrraedd eich llawn botensial mewn rhannau o’ch bywyd a allai gynnwys:

  • Llesiant emosiynol a meddyliol
  • Hyder a hunanwerth
  • Adferiad o gamddefnyddio sylweddau a throseddu
  • Lechyd corfforol
  • Tai/rheoli tenantiaethau [CAT1]
  • Cyfathrebu a sgiliau iaith
  • Addysg a hyfforddiant
  • Sgiliau bywyd
  • Arian (a budd-daliadau)
  • Anghenion diwylliannol a chrefyddol
  • Perthnasau teulu a rhianta (yn cynnwys cefnogaeth yn
  • ystod camdriniaeth yn y cartref)
  • Rhwydweithiau cefnogaeth
  • Swyddi a gwirfoddoli
  • Cymdeithasu a hamddena

Mae ein prosiect hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a helpu i leihau gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Gallwn gynnig cefnogaeth sy’n deall ac nad yw’n feirniadol mewn meysydd fel:

  • Cefnogaeth ac eiriolaeth unigol
  • Cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor cymunedol
  • Cyfeillio a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Cyfeirio ymlaen ar gyfer unigolion, aelodau’r teulu a
    gofalwyr
  • Ymweliadau â’r ysbyty ar gyfer cleifion mewnol
  • Cefnogaeth gymunedol
  • Gwybodaeth a chyngor

Rydym yn gweithio gyda’r bobl ganlynol?

  • Pobl o Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnigrwydd Lleiafrifoledig
  • Ceiswyr lloches / ffoaduriaid

Pwy gaiff gyfeirio?

  • Chi (hunangyfeirio)
  • Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
  • Gweithwyr cefnogaeth tai
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Timau Iechyd Meddwl
    Cymunedol (CMHT)
  • Meddygon teulu a gweithwyr iechyd eraill
  • Gwasanaethau prawf
  • Sefydliadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Ein prosiectau

I gael ffurflen gais gyfeirio i gael mynediad ar ein prosiect, neu i wirfoddoli, cysylltwch â ni:

(029) 20368888

info@diverse.cymru

I gael ffurflen gais gyfeirio i gael mynediad ar ein prosiect, neu i wirfoddoli, cysylltwch â ni:

Yng Ngorllewin Cymru:

cara.thould@diverse.cymru

Yng Ngogledd Cymru:

rebecca.morris@diverse.cymru neu victoria.sowunmi@diverse.cymru

Gydag arian gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi creu prosiect sy’n anelu at ddarparu cefnogaeth ehangach sy’n canolbwyntio ar y person i bobl BAME sy’n agored i niwed ledled Cymru ac sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl arnynt ar hyn o bryd. Mae ein dulliau arferol o weithio wedi newid oherwydd COVID-19 ac rydym yn gweld galw cynyddol am ein gwasanaethau arbenigol o bob cwr o Gymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar y gymuned ac mae’n sensitif yn ddiwylliannol, gan gynnig gwasanaethau mewn pedair iaith gymunedol (yn cynnwys Arabeg a Somalieg), gyda’r nod o wella llesiant meddyliol unigolion fel nad oes angen iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau cynradd.

I gysylltu, ffoniwch 07932 512240 neu anfonwch ebost at tubasum.munawar@diverse.cymru.