Rannwch eich amser a’ch doniau i’n helpu i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled Cymru.

Mae Diverse Cymru bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr medrus a brwdfrydig i’n helpu i hyrwyddo a darparu ein gwasanaethau.

Gall gwirfoddoli fod yn gyfle i ymgysylltu neu ail-ymgysylltu â byd gwaith, dysgu sgiliau newydd neu adnewyddu’r rhai sydd gennych eisoes, i fagu hyder, neu’n syml er mwyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Rydym yn awyddus i recriwtio o grwpiau a dangynrychiolir yn y sector dielw ar hyn o bryd, neu a dangynrychiolir ynddo’n barhaus, a’n nod yw cynnig amgylchedd diogel a llawn anogaeth i bobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i fod yn wirfoddolwyr.

Darllenwch yma i ddarganfod mwy am ein lleoliad myfyriwr diweddar

Y Rolau Gwirfoddoli Sydd ar Gael

Gwirfoddolwyr Cyfathrebu a Phrosiect

Chwilio am gyfle i wirfoddoli? Ymuna â ni yng Ngwynedd!

Wyt ti’n chwip o gyfrannwr ar y cyfryngau cymdeithasol?
Oes gen ti ddawn dweud?
Wyt ti’n chwilio am brofiad mewn rôl Cyfathrebu?

Os mai “ia” ydi dy ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, ac os hoffet ti chwarae rhan mewn creu Cymru fwy cydradd, fe hoffem ni glywed gen ti!

Trwy roi cwpl o oriau’r wythnos i ni, byddi’n ein helpu i roi llais i straeon pobl yng Nghymru na chlywir amdanynt. Fe gei di unrhyw gefnogaeth ac arweiniad y bydd ei angen arnat gennym ni, a’r hyblygrwydd i ddewis y tasgau sydd o ddiddordeb i ti. Byddwn hefyd yn cynnig geirda i gefnogi dy brofiad gyda ni pe byddai ei angen arnat.

I ddarganfod mwy, galli lawrlwytho’r disgrifiad rôl yma. Ar gyfer unrhyw ymholiadau, neu i wneud cais, cwblha ffurflen gais a’i hanfon mewn ebost at volunteer@diverse.cymru


Cyfeillio

Mae gennym wasanaeth cyfeillio ar gyfer pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd sy’n profi ynysigrwydd cymdeithasol o ganlyniad i iechyd meddwl gwael neu os oes angen cefnogaeth arnynt yn y tymor byr, efallai yn ymwneud â phroblem benodol.

Hyrwyddwyr Cymunedol a Chefnogaeth Cyfoedion
Rôl sy’n cynorthwyo gyda sesiynau estyn allan, hyfforddi ac ymgysylltu yw hon, mewn lleoliadau cymunedol a gyda grwpiau cymunedol Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, i hybu llesiant meddyliol ac i hyrwyddo ein gwasanaethau.

Cyfleoedd Ymgysylltu
Mae Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr, a Grŵp Llywio Aelodau Diverse Cymru’n ymrwymedig i roi llais Defnyddwyr Gwasanaeth wrth galon ein sefydliad. Rydym am recriwtio a hyfforddi pobl i sicrhau bod profiad Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei ystyried mewn darpariaeth Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol, yn cynnwys ein gwasanaethau ein hunain, ynghyd â datblygiadau gwasanaethau’r dyfodol ac ymgynghoriadau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Felly, os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth neu ofalydd o’r gymuned Ddu neu o Leiafrif Ethnig, buasem yn gwerthfawrogi eich profiadau a’ch arbenigedd ynghylch darpariaeth gwasanaethau.

Aelodau Panel
Rydym yn cael nifer o geisiadau am farn defnyddwyr gwasanaeth Duon a Lleiafrifoedd Ethnig, yn amrywio o baneli recriwtio i gyrsiau gradd Gofal Cymdeithasol, i fod yn ymddiriedolwr. Mae hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau bod llais Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynrychioli yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn gofyn ichi gwblhau ffurflen cyfleoedd cyfartal wrth wneud cais i wirfoddoli gyda ni. Mae Diverse Cymru’n defnyddio’r wybodaeth hon, yn gwbl ar wahân i unrhyw wybodaeth bersonol, i sicrhau bod ein cyfleoedd gwirfoddoli’n cyrraedd grŵp amrywiol o ddarpar wirfoddolwyr.

Dim ond am uchafswm o 12 mis y byddwn yn cadw’r wybodaeth ar y ffurflenni hyn, ac ni fyddwn yn ei ddangos i unrhyw sefydliad arall, oni bai bod rhwymedigaeth statudol yn golygu bod rhaid inni.

Ni ddylai gwirfoddoli effeithio ar eich budd-daliadau os mai’r unig arian rydych yn ei dderbyn yw arian i ad-dalu costau, fel costau teithio.

Fel arfer, nid oes cyfyngiadau ar faint o amser y cewch ei dreulio’n gwirfoddoli, cyn belled â’ch bod yn parhau i fodloni amodau’r budd-dal neu gredyd treth yr ydych yn ei dderbyn.

Fodd bynnag, argymhellwn eich bod yn holi eich awdurdod lleol neu gynghorydd budd-dal cyn dechrau rôl wirfoddol.