Rydym yn arbenigo mewn darparu ymgynghoriaeth a chyrsiau hyfforddiant sy’n trafod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Diverse Cymru’n darparu amrywiaeth eang o ymgynghoriaeth a hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Gellir cynnal ein holl gyrsiau ac ymgynghoriadau ar-lein (ar Microsoft Teams neu Zoom), neu wyneb yn wyneb yn eich sefydliad.
Mae ein holl gyrsiau a gwasanaethau ymgynghori wedi’u seilio ar ymgysylltu â phobl amrywiol o blith yr holl nodweddion cydraddoldeb, ynghyd â gweithio gyda phobl sy’n profi gwahaniaethu, anfantais a/neu anghydraddoldeb yng Nghymru.
Caiff pob ymgynghoriad neu sesiwn hyfforddi ei deilwra i chi i gyfarch eich deilliannau dysgu a’ch blaenoriaethau chi.
Rhoi darlun yn unig mae’r dewis hwn o wasanaethau, fel enghraifft o ddarpariaeth gwasanaeth Diverse Cymru.
Ymgynghoriaeth
Rydym yn darparu ymgynghoriaeth un i un ar unrhyw agwedd ar gyrraedd cymunedau amrywiol; ymgysylltu a chynnwys pobl amrywiol; gwreiddio cydraddoldeb mewn polisïau ac arfer; gwreiddio cydraddoldeb mewn prosiectau a gweithgareddau; Asesiadau Effaith Cydraddoldeb; a materion eraill sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gallwn ddarparu ymgynghoriaeth o bell neu wyneb yn wyneb – cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Mae ein dewis o wasanaethau ymgynghoriaeth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cynnwys:
- Digwyddiadau cynnwys ac ymgysylltu
- Adolygiadau polisi ac arfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Ysgrifennu strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a gwreiddio cydraddoldeb yn eich prosiect neu wasanaeth
- Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
- Bod yn Gyfeillion Beirniadol
- Cyflwyniadau, darlithoedd a seminarau
Mae pynciau’r ydym wedi’u darparu o’r blaen yn cynnwys:
- Model Cymdeithasol Anabledd
- Ymgysylltu â chymunedau amrywiol
- Arferion amrywiaeth ymysg y gweithlu
- Amcanion cydraddoldeb a Chynlluniau Cydraddoldeb Strategol
- Gwreiddio cydraddoldeb yn eich gwasanaethau a phrosiectau
- Amrywiaeth ar waith ym myd ffilm a theledu
- Amrywiaeth yn y sector celfyddydau
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg
- Polisi ac arfer taliadau uniongyrchol
- Gwella gwasanaethau i gymunedau amrywiol
- Cysylltu cydraddoldeb a llesiant
- Cydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Cyflawni Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol effeithiol
- Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
- Ymchwil ar gydraddoldeb a’i ddefnyddiau
(Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…)
Hyfforddiant
Mae Diverse Cymru yn cyflogi arbenigwyr yn eu meysydd sy’n darparu amrywiaeth o hyfforddiant wedi’i deilwra, o safon uchel, sy’n trafod pob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer eich sefydliad.
Rhoi darlun yn unig mae’r rhestr hon o sesiynau hyfforddi, cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn hyfforddi nad yw wedi’i gynnwys yn y rhestr. Mae ein holl gyrsiau’n cael eu teilwra i’ch sefydliad, eich dewis o ddeilliannau dysgu, a gellir eu haddasu i weddu i’ch gofynion.
Mae pynciau’r ydym wedi darparu hyfforddiant i sefydliadau arnynt o’r blaen yn cynnwys:
- Cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch cynhwysiant
- Rhagfarn ddiarwybod
- Ymwybyddiaeth cydraddoldeb anabledd
- Ymwybyddiaeth trawsrywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd
- Ymwybyddiaeth amrywiaeth ddiwylliannol
- Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
- Ymwybyddiaeth iechyd meddwl cymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnigrwydd Lleiafrifoledig
- Deddf Cydraddoldeb 2010 – y gyfraith ac ymarfer
- Gwneud Addasiadau Rhesymol i bobl anabl mewn cyflogaeth ac fel defnyddwyr gwasanaeth
- Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ac Asesiadau Effaith Integredig
- Ymwybyddiaeth cyfeiriadedd rhywiol
- Cynnwys gwirfoddolwyr amrywiol
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle
- Ymwybyddiaeth troseddau casineb
(I ddysgu mwy am yr hyfforddiant a gynhigiwn, ac i weld y Deilliannau Dysgu ar gyfer pob un o’r pynciau hyfforddiant uchod, cliciwch yma…)
Am fwy o wybodaeth neu i archebu cwrs:
Ebost – Ele Hicks;
Ebost – Gwybodaeth;
Ffôn – 029 2036 8888
Ele Hicks, Diverse Cymru, Diverse Cymru, 96-98 Stryd Neville, Caerdydd, CF11 6LS
It was the first time we have had such training and it opened up lots of conversations so all really useful and important – thank you!
Really good – very informative and a good refresher for the bits you already know.
I really enjoyed the detailed explanations, the training was very relevant to my role.
We found the training delivered by Ele to be informative and timely. Participants especially appreciated the youth-led element and the chance to ask questions!
I feel I have increased my knowledge and skills
Loved it, very informal and encouraged lots of feedback