
Rownd 2 ar agor!
Mae Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad yn un o gyfres o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal i gefnogi pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, i gael mynediad a chynhwysiant cyfartal mewn gweithgareddau diwylliannol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei ymrwymiadau a’i fenter ar gydraddoldeb hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 yn eu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Amlinellodd y Cynllun weledigaeth Llywodraeth Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2023 a chyflwynodd nodau a chamau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer 11 o feysydd polisi yn cynnwys Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon.
Fel rhan o’r nodau chamau gweithredu hynny, nod y grant hwn, a reolir gan Diverse Cymru, yw cefnogi pobl Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, i ddatblygu gweithgareddau diwylliannol a chreadigol ledled Cymru a gall gefnogi prosiectau un flwyddyn neu brosiectau aml-flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2024.
Pa brosiectau fydd yn cael eu cefnogi?
Ein dymuniad yw cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, gelfyddydau gweledol, celf cymunedol, dawns, carnifal, gwyliau, perfformiad, llenyddiaeth, a cherddoriaeth.
Manylion y grant
Mae dau fath o grant ar gael, ewch i fwrw golwg ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob grant cyn ymgeisio.
Grant Bach
Mae cyllid o £1,000 ar gael i brosiectau dan arweiniad sefydliadau llawr gwlad dielw cyfansoddiadol yn cynnwys elusennau a chwmnïau budd cymunedol. Caiff sefydliadau anghorfforedig / grwpiau cyfansoddiadol ymgeisio ar y cyd â sefydliad cwbl gyfansoddiadol.
Gellir defnyddio’r grant hwn i ariannu gwariant cyfalaf megis offer yn ogystal â gwariant refeniw megis llogi lleoliadau, gwirfoddolwyr, neu amser staff llawrydd.
Grant Diwylliant
Mae cyllid o £15,000 ar gael i gefnogi prosiectau dan arweiniad sefydliadau dielw cyfansoddiadol yn cynnwys elusennau a chwmnïau budd cymunedol.
Ar wariant cyfalaf yn unig y ceir gwario’r grant. Mae prosiectau cyfalaf yn cael eu categoreiddio fel prosiectau sy’n creu neu’n prynu asedau neu’n cefnogi ailddatblygiad sylweddol o asedau presennol i’ch galluogi i barhau i gynnal gweithgareddau diwylliannol cyfredol neu greu rhai newydd.
Gall costau refeniw nodweddiadol gynnwys:
- Prynu offer e.e. offer celf neu gerddoriaeth
- Prynu meddalwedd a seilwaith digidol
- Costau adeiladu arddangosfeydd
Dyddiadau cau
Mae ceisiadau am y ddau grant ar agor nawr a byddant yn cau Ddydd Llun 18ain Mawrth am 9am.
Rhaid cwblhau’r prosiect erbyn 31 Rhagfyr 2024
Am fwy o wybodaeth
Mae gan bob grant (y grant canolig a’r grant mawr) ei daflen wybodaeth ei hun a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth ichi ynghylch pa grwpiau sy’n gymwys a beth y gellir defnyddio’r grant ar ei gyfer.
Cliciwch ar y dolenni yma i gael mynediad at y Taflenni Gwybodaeth
Grant Bach:
Ffurlen Cais – Grant Bach
Taflen Wybodaeth – Grant Bach
Grant Diwylliant:
Ffurlen Cais – Grant Diwylliant
Taflen Wybodaeth – Grant Diwylliant
Cefnogaeth i wneud cais
Byddwn yn cynnal Sesiynau Gwybodaeth ar-lein i chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun grant ac i roi cyfle ichi ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
I archebu lle, cliciwch ar y ddolen hon neu anfonwch ebost atom i grants@diverse.cymru
Hysbysiad preifatrwydd
I ddysgu sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn cysylltiad â’ch cais am grant, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.