Helpu gweithleoedd ddatblygu gwasanaethau tecach i Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Mae Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol yn adnodd arobryn ar gyfer datblygiad yn y gweithle i helpu sefydliadau roi arfer da ar waith, gan sicrhau bod gwasanaethau’n deg ac yn gydradd i Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.
Lleihau anghyfartalwch yn y gweithle
Mae Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn wynebu anghydraddoldebau sy’n arwain at gyfleoedd bywyd gwaelach ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Gall anghyfartalwch, fel yr amlygwyd yn ddiweddar gan yr effaith ddwysach a gafodd Covid-19 ar gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gael effaith barhaus ar fywydau’r rhai yr effeithir arnyn nhw. Mae gan sefydliadau ran allweddol i’w chwarae mewn goresgyn yr anghydraddoldebau hyn.
Archwilio rhagfarn ddiarwybod a datblygu cymhwysedd diwylliannol
Mae’r Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol yn cefnogi gweithleoedd i ‘gychwyn ar siwrne’ ac archwilio rhagfarn ddiarwybod gyffredin a datblygu eu cymhwysedd diwylliannol, fel bod eu gwasanaethau a’u harferion cyflogi yn deg ac yn gydradd. Mae’r dull hwn yn fuddiol i staff y gweithle a defnyddwyr gwasanaeth fel ei gilydd.
Ymunwch â’n cynllun.
Mae MaCynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol ar gael i sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Rydym yn gweithio gyda mwy na 100 o gyfranogwyr ar y Cynllun Ardystio. Mae’r rhain yn cynnwys gweithleoedd yng Nghymru ym mhob bwrdd iechyd a’r holl brif elusennau iechyd meddwl.
Rydym yn gweithio hefyd gyda gweithleoedd sy’n gweithio ym meysydd anabledd dysgu, dementia, camddefnyddio sylweddau, addysg, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, prifysgolion, a’r sector preifat i sicrhau bod sefydliadau’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a’r anghyfartalwch a brofir gan bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n defnyddio eu gwasanaethau (neu a allent gael eu heithrio rhag eu defnyddio).
Gallwch ddysgu mwy am y cynllun a chofrestru yma.