Newyddion

Newyddion2022-03-11T09:46:21+00:00

Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru

By |17 August 2023|Categories: News|

Cynllun Grant £455,000 newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau diwylliannol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar lawr gwlad a dan arweiniad y gymuned Mae’n bleser gan Diverse Cymru gyhoeddi ein bod yn rheoli Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad a bod y cynllun am fod ar agor i dderbyn ceisiadau yng nghanol mis Awst 2023. Mae Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad yn un o gyfres o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal i gefnogi pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, i gael mynediad a chynhwysiant cyfartal mewn gweithgareddau diwylliannol ledled Cymru. Mae’r Cynllun Grant yn ymateb uniongyrchol i ddau gam gweithredu penodol yn adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’n mynd i’r afael â’r angen i adolygu ceisiadau am gyllid i wella canlyniadau i sefydliadau dan arweiniad pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neu bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac mae’n clustnodi adnoddau i gefnogi gweithgareddau diwylliannol a chreadigol llawr gwlad ymysg grwpiau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd y Cynllun Grant yn cefnogi ac yn cyfnerthu cyfranogiad, ymgysylltiad a chynrychiolaeth pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig drwy fuddsoddi ymhellach mewn gweithgareddau diwylliannol newydd gyda grwpiau llawr gwlad ledled Cymru, i’w galluogi i gael mynediad at gyllid a chefnogaeth ar gyfer prosiectau a chreu rhaglen o weithgareddau diwylliannol amrywiol hyd fis Rhagfyr 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei ymrwymiadau a’i fenter ar gydraddoldeb hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 yn eu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Amlinellodd y Cynllun weledigaeth Llywodraeth Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2023 a chyflwynodd nodau a chamau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer 11 o feysydd polisi yn cynnwys Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon. Bydd y fenter newydd hon yn galluogi grwpiau cymunedol a sefydliadau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru neu grwpiau cymunedol neu sefydliadau y mae eu cleientiaid yn bennaf yn bobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, i gael mynediad at gyllid prosiect cyfalaf a/neu refeniw ar gyfer un flwyddyn neu fwy nag un flwyddyn. Bydd grwpiau a sefydliadau yn cael gwneud cais am gyllid o hyd at £30,000 yn dibynnu ar faint a statws cyfansoddiadol y grŵp. Ein dymuniad yw cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, gelfyddydau gweledol, celf cymunedol, dawns, carnifal, gwyliau, perfformiad, llenyddiaeth, a cherddoriaeth. Bydd rownd gyntaf y grant yn agor yng nghanol mis Awst 2023 a bydd digwyddiadau ymgysylltu ar-lein yn cael eu cynnal drwy gydol Awst a Medi i roi cyfle i grwpiau sydd â diddordeb gael cwrdd â gweinyddwyr y grant a darganfod mwy. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr ebostio i dderbyn mwy o wybodaeth a chael eich hysbysu ynghylch manylion agor y broses ymgeisio am grant, anfonwch ebost at grants@diverse.cymru, os gwelwch yn dda. [...]

Go to Top