Cynllun Ardystio Arfer Da yn y Gweithle – Iechyd Meddwl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

YR ALLBYNNAU/MESUR LLWYDDIANT

Daw llwyddiant a mesurau llwyddiant ar sawl ffurf; fodd bynnag, y prif fesur o lwyddiant fydd gweld Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl mwy amserol, mwy addas a mwy effeithiol, sy’n arwain at well canlyniadau. Er enghraifft:

Darparwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl

  • Lefelau uwch o ymddiriedaeth ac ymgysylltu gan ddefnyddwyr gwasanaeth Duon a Lleiafrifoedd Ethnig a’r gymuned ehangach
  • Datblygu gwasanaethau a dulliau wedi’u teilwra’n well
  • Gwell effeithlonrwydd
  • Lleihau cwynion ynghylch gwahaniaethu
  • Gwella ymgysylltu â staff

Defnyddwyr Gwasanaeth

  • Mwy o hyder i ymgysylltu â’r darparwr gwasanaeth
  • Gwell ymgysylltu â darparwyr gwasanaeth
  • Gwell teimlad o reolaeth ynghylch y gwasanaeth y maen nhw’n ei dderbyn
  • Profiad o wasanaethau a dulliau sy’n fwy addas a sensitif yn ddiwylliannol
  • Lleihau pryder

METHODOLEG, PROSES A THYSTIOLAETH ARDYSTIO

Y Fethodoleg Ardystio

Bydd y cynllun yn defnyddio dull cefnogol o ardystio wedi’i seilio ar dystiolaeth, sy’n golygu y bydd Diverse Cymru’n gweithio gyda chyfranogwyr i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth lawn o’r dystiolaeth y bydd ei angen arnynt i lwyddo i gyflawni ardystiad i’w lefel targed. Bydd y cynllun hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau i ddiwallu ac ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ffordd gynaliadwy a chosteffeithiol.

Y Broses Ardystio:

Mae pedwar cam syml i’r broses hon:-

  • Cam 1. Cofrestru a Thalu
  • Cam 2. Dadansoddiad Hunanasesiad
  • Cam 3. Asesiad ac Ardystiad
  • Cam 4. Monitro, Ail-ddilysu ac Ailasesu

Lefelau Asesu ac Ardystio

Bydd cyfranogwyr yn gallu eu meincnodi eu hunain ar bedwar lefel gwahanol:

  • Sylfaen
  • Datblygol
  • Cymwys
  • Rhagoriaeth

Lefelau Tystiolaeth Mynegol

Defnyddir templed tystiolaeth wedi’i safoni sy’n ymdrin â phum maes asesu i benderfynu lefel ardystiad y cyfranogwyr.

Sylwer: ar gyfer y prosiect hwn, mae’r termau canlynol: Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME), neu Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), yn cael eu defnyddio i gyfeirio at aelodau o’r gymuned yn y Deyrnas Unedig nad ydynt yn wyn; at ddibenion y broses ardystio, mae Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn cynnwys Roma, Gwyddelig, Pwylaidd, Teithwyr a phobl o Ddwyrain Ewrop, er enghraifft.