Ymunwch â’n Tîm

Ein pobl sydd wrth galon popeth a wnawn yma yn Diverse Cymru. Pa bynnag rôl y byddwch yn ei chymryd gyda ni, byddwch yn ein helpu i wireddu Cymru decach, fwy cydradd i bawb.

Rydym yn ymroddedig i’ch cefnogi yn eich rôl a thu hwnt. Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni hyfforddi mewnol yn ogystal â hyfforddiant allanol a chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Ynghyd ag arfarniadau blynyddol, byddwch hefyd yn cael sesiynau rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell i sicrhau bod gennych bopeth y mae ei angen arnoch i lwyddo yn eich rôl.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd bywyd a gwaith, a dyna pam rydym yn gweithredu system amser fflecsi, yn cynnig dyddiau gwyliau blynyddol hael, ac rydym yn agored i drefniadau gweithio’n hyblyg.

I wneud cais am unrhyw un o’n swyddi, cwblhewch y dogfennau isod a’u dychwelyd i careers@diverse.cymru

Ffurflen Gais
Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal

Dim swyddi gwag ar gael

Swyddi Gwag allanol 

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) – Uwch Ddadansoddwr Ystadegol

Cyflog: £45,256 – £52,399
Cytundeb: Parahol, Llan Amser
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau:
19 Mai 2024

Mae Tîm Ystadegau CCAUC yn gyfrifol am ddadansoddi ac adrodd ar ddata sy’n gysylltiedig â myfyrwyr, staff a chyllid addysg uwch (AU) yng Nghymru, o fewn CCAUC ac yn allanol. Rydym hefyd yn datblygu modelau cyllido ac yn cyfrifo dyraniadau cyllid i ddarparwyr AU. Rydym yn chwilio am Uwch Ddadansoddwr Ystadegol i ymuno â’n tîm o wyth ar adeg gyffrous iawn wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, y corff hyd braich newydd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio a chyllido addysg ôl-16 ac ymchwil o fis Awst 2024.

Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi data, adrodd ar ddata, datblygu modelau cyllido, monitro cyllid a rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr. Byddwch yn arbenigwr, neu’n dod yn arbenigwr ar ddata addysg uwch ac yn meddu ar y sgiliau a’r profiad i fynd ati’n effeithiol i gyflawni gweithgareddau’r tîm mewn perthynas â chyllid a dadansoddi.

A chithau wedi eich addysgu i lefel gradd (neu lefel gyfwerth), mewn gradd sy’n seiliedig ar rifedd megis mathemateg neu ystadegau, gan feddu o bosibl ar gymhwyster ôl-radd hefyd, byddwch yn rhywun sy’n gweithio’n ardderchog fel aelod o dîm, sy’n gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gweithio da â chydweithwyr yn CCAUC, cysylltiadau data mewn darparwyr addysg uwch a rhanddeiliaid allanol megis Jisc, sy’n casglu cofnodion yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) gan ddarparwyr addysg uwch.

Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol, cymryd cyfrifoldeb llawn am eich gwaith, datblygu datrysiadau i broblemau, yn meddu ar brofiad o gynnal dadansoddiadau ar setiau data mawr a chymhleth ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol am eich gwaith gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn wych am roi sylw i fanylder ac yn gallu gweld perthnasedd ehangach eu gwaith. Mae sgiliau cyfathrebu a gwrando cryf yn hanfodol. Byddwch yn meddu ar sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys mewn Microsoft Excel a meddalwedd delweddu data megis Power Bi, a bydd gennych brofiad o raglennu gan ddefnyddio SAS neu feddalwedd tebyg.  Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch Apply

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw.  Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd.  Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Caiff ein tudalen swyddi gwag ei gweld gan filoedd o bobl o bob rhan o Drydydd Sector Cymru bob mis. I restru eich swydd wag gyda ni, anfonwch ebost at info@diverse.cymru gan nodi: 

 

Teitl Swydd 

Lleoliad 

Cyflog 

Disgrifiad swydd un paragraff 

Dolen i wneud cais neu i’ch gwefan 

Cyfeiriad/ebost ar gyfer anfonebu 

Sylwer ein bod yn gofyn am £25 fesul swydd a restrwn fel ffi sefydlog, dim ots pa hyd fydd yr hysbyseb i’w ddangos. Byddwch yn derbyn anfoneb unwaith mae’r hysbyseb wedi’i gyhoeddi.