Cydraddoldeb i Bawb

Gweledigaeth Diverse Cymru yw helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu, ble mae pawb yn gydradd a chaiff amrywiaeth ei ddathlu, a’n cenhadaeth yw diddymu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.

Crëwyd Diverse Cymru yn 2011 drwy uno dau sefydliad, y Cardiff and Vale Coalition of Disabled People ac Awetu.

Elusen yng Nghymru yw Diverse Cymru, sy’n ymrwymedig i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn grymuso pobl drwy:

Rydym yn creu newid drwy:

Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei ymrwymiadau a’i fenter ar gydraddoldeb hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 yn eu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Amlinellodd y Cynllun weledigaeth Llywodraeth Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 a chyflwynodd nodau a chamau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer 11 o feysydd polisi yn cynnwys Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon.

Fel rhan o’r nodau chamau gweithredu hynny, nod y grant hwn, a reolir gan Diverse Cymru, yw cefnogi pobl Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, i ddatblygu gweithgareddau diwylliannol a chreadigol ledled Cymru a gall gefnogi prosiectau un flwyddyn neu brosiectau aml-flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2024.

Prosiectau Cyfredol

Twitter feed is not available at the moment.
“I instantly felt refreshed and my mind felt so clear, it’s a different atmosphere and I had a great time, I would love to come again”
BME Male – 20

Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth

Mae Diverse Cymru’n darparu amrywiaeth eang o ymgynghoriaeth a hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gellir cynnal ein holl gyrsiau ac ymgynghoriadau ar-lein (ar Microsoft Teams neu Zoom), neu wyneb yn wyneb yn eich sefydliad.

Mae ein holl gyrsiau a gwasanaethau ymgynghori wedi’u seilio ar ymgysylltu â phobl amrywiol o blith yr holl nodweddion cydraddoldeb, ynghyd â gweithio gyda phobl sy’n profi gwahaniaethu, anfantais a/neu anghydraddoldeb yng Nghymru.

Ymgynghoriaeth 

Rydym yn darparu ymgynghoriaeth un i un ar unrhyw agwedd ar gyrraedd cymunedau amrywiol; ymgysylltu a chynnwys pobl amrywiol; gwreiddio cydraddoldeb mewn polisïau ac arfer; gwreiddio cydraddoldeb mewn prosiectau a gweithgareddau; Asesiadau Effaith Cydraddoldeb; a materion eraill sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gallwn ddarparu ymgynghoriaeth o bell neu wyneb yn wyneb – cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Hyfforddiant 

Mae Diverse Cymru yn cyflogi arbenigwyr yn eu meysydd sy’n darparu amrywiaeth o hyfforddiant wedi’i deilwra, o safon uchel, sy’n trafod pob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer eich sefydliad. Rhoi darlun yn unig mae’r rhestr hon o sesiynau hyfforddi, cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn hyfforddi nad yw wedi’i gynnwys yn y rhestr. Mae ein holl gyrsiau’n cael eu teilwra i’ch sefydliad, eich dewis o ddeilliannau dysgu, a gellir eu haddasu i weddu i’ch gofynion.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu cwrs:

Anfonwch ebost at Ele Hicks ar: Ele.hicks@diverse.cymru

Ffoniwch ni ar: 029 2036 8888 neu 07826 516617

Ysgrifennwch atom: Ele Hicks, Diverse Cymru, 96-98 Stryd Neville, Caerdydd, CF11 6LS.

Newyddion

Ein Gwobrau

Hoffech chi glywed mwy gan Diverse Cymru?

Cofrestrwch i’n rhestr bostio i dderbyn y newyddion diweddaraf gan Diverse Cymru a’r sector cydraddoldeb ehangach, ynghyd â ffyrdd i gymryd rhan a chael dweud eich dweud, a chyfleoedd gwirfoddoli.

You can also sign up to hear more by downloading the form below. Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau at info@diverse.cymru gyda’r gair TANYSGRIFIO fel pwnc.

Sign up form (size 18 text)

Large text sign up form (size 24 text)