Mae ein nodau, ein gwerthoedd, ein gwasanaethau a’n gwaith oll wedi’u seilio ar rymuso a chodi lleisiau pobl sy’n profi gwahaniaethu a / neu anfantais ledled Cymru.

Dewch i gael dweud eich dweud a’n helpu i gadw ein gwaith yn ffyddlon i’r egwyddor hwn, ac yn ffyddlon i anghenion, dymuniadau a chanlyniadau ein defnyddwyr gwasanaeth a phobl sy’n profi gwahaniaethu a / neu anfantais yng Nghymru.

Ymunwch â ni i ddylanwadu ar sefydliadau i wneud yn well, ac i weithio’n galetach i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru.

Get involved – Engagement Events

None currently!

Mae Diverse Cymru’n ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i godi lleisiau pobl yng Nghymru y mae cydraddoldeb, gwahaniaethu a / neu anfantais yn effeithio arnynt, ac i hyrwyddo a hybu cydraddoldeb i bawb.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Pwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol y Senedd
  • Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG
  • Cynghorau lleol
  • Lluoedd yr Heddlu
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus
  • Rhai sefydliadau yn y sector preifat a’r trydydd sector

Gwnawn hyn drwy:

  • Ymateb i ymgynghoriadau
  • Cymryd rhan mewn ymholiadau
  • Cymryd rhan mewn grwpiau gwaith
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau
  • Rhoi profiadau ar ein gwefan fel enghreifftiau o’r hyn sydd angen ei newid
  • Ysgrifennu briffiau a’u hanfon i sefydliadau yn gofyn iddyn nhw newid yr hyn maen nhw’n ei wneud
  • Ymgyrchu dros newid

Yr hyn rydyn ni’n ei olygu yw unrhyw un a chanddynt un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu sy’n profi gwahaniaethu ac anfantais yn ein cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys:

  • Pobl Dduon, Asiaidd ac o Ethnigrwydd Lleiafrifoledig
  • Pobl sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd a diwylliant
  • Pobl croenliw
  • Pobl sy’n profi hiliaeth
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
  • Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys:
  • Pobl sydd â namau symudedd. Er enghraifft, defnyddwyr cadeiriau olwynion neu bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar gerdded.
  • Pobl sydd â namau synhwyraidd. Er enghraifft, pobl Ddall, Byddar neu sydd â nam ar y clyw.
  • Pobl gyda namau / anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig a niwroamrywiol neu bobl sydd â dyslecsia, dyspracsia neu Syndrom Downs.
  • Pobl sydd â namau gwybyddol. Er enghraifft, pobl gyda dementia neu hydroseffalws.
  • Pobl sydd ag iechyd meddwl gwael, neu bobl sy’n profi trallod emosiynol. Er enghraifft, pobl sy’n profi gorbryder, pobl sydd ag iselder, neu bobl sydd â sgitsoffrenia
  • Pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Er enghraifft, HIV, diabetes neu MS.
  • Pobl Lesbaidd, Hoyw a Deurywiol
  • Pobl Anrhywiol ac Aromantig
  • Pobl hŷn dros 50 oed
  • Pobl ifanc dan 25
  • Pobl sy’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar
  • Pobl sydd â gwahanol grefyddau a chredoau a phobl sydd â dim crefydd neu gred
  • Gofalwyr (pobl sy’n darparu gofal neu gefnogaeth ddi-dâl i ffrind neu aelod o’r teulu)
  • Menywod a dynion
  • Pobl rhyngrywiol
  • Pobl draws a phobl anneuaidd
  • Pobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil
  • A phobl o wahanol grwpiau neu ddosbarthiadau economaidd-gymdeithasol

Mae Diverse Cymru yn chwilio am brofiadau a straeon pobl i helpu i gefnogi ein gwaith i wella gwasanaethau, polisi ac arfer ledled Cymru. Os oes gennych chi stori i’w dweud, boed hynny’n brofiad da neu ddrwg, neu os rydych chi’n teimlo y gallai rhywbeth fod wedi’i wneud yn well, gadewch inni wybod amdano. Wrth inni gasglu’r straeon hyn, a gallwn eu gwneud yn ddienw os dymunwch, gallwn eu defnyddio i adael i wasanaethau fel y rhai a restrir isod wybod sut gallant wella a bod yn fwy ymatebol i anghenion amrywiaeth eang o bobl amrywiol a phobl sy’n profi gwahaniaethu neu anfantais.

  • Gofal iechyd
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Gofal Cymdeithasol
  • Llesiant
  • Lles a Budd-daliadau
  • Tlodi
  • Eithrio Cymdeithasol
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Trosedd Casineb a Diogelwch Cymunedol
  • Addysg
  • Cyflogaeth a gwirfoddoli
  • Trafnidiaeth
  • Tai

Gallwch anfon eich profiadau atom:

Trwy anfon ebost at: research@diverse.cymru

Neu drwy’r post:

Dweud eich Dweud
Diverse Cymru
96-98 Stryd Neville,
Caerdydd
CF11 6LS

  • Mae ein holl ymatebion a chyfraniadau yn seiliedig ar brofiadau, barn a lleisiau pobl sy’n profi gwahaniaethu neu anfantais yng Nghymru.

Rydym yn rhannu cyfleoedd i gael dweud eich dweud ar rai o’r ymgynghoriadau ac ymchwiliadau pwysicaf yng Nghymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb yma ac yn ein e-fwletinau a chylchlythyrau. Yn aml iawn mae nifer o ymgynghoriadau ac ymchwiliadau’n cael eu cynnal ar yr un pryd, ac ni allwn ddarparu ymateb cynhwysfawr bob amser.

Gallwch hefyd anfon eich profiadau neu eich barn atom yma (link to your experiences page)

  • I gymryd rhan, anfonwch ebost at: ele.hicks@diverse.cymru

Neu cysylltwch â ni drwy’r post:

Dweud eich Dweud

Diverse Cymru
96-98 Stryd Neville,
Caerdydd
CF11 6LS

Os hoffech chwarae mwy o ran yn hyn, gallwch ein helpu i ymateb i ymgynghoriadau, casglu barn bobl eraill ac ymchwilio adroddiadau a’r dystiolaeth sydd ar gael drwy wneud cais i wirfoddoli gyda’n tîm Ymgysylltu, Ymchwil a Pholisi.

I holi ynghylch gwirfoddoli, cysylltwch â ni:

Ebost: research@diverse.cymru

Ffôn: 029 2036 8888

Neu gallwch ysgrifennu atom:

Tîm Ymgysylltu, Ymchwil a Pholisi

Diverse Cymru
96-98 Stryd Neville,
Caerdydd
CF11 6LS

Isod ceir ymatebion Diverse Cymru i ymgynghoriadau, ymchwiliadau a galwadau am dystiolaeth, ynghyd â’n papurau briffio ar broblemau a datrysiadau.

Mae ein holl bapurau ac ymatebion yn seiliedig ar ymgysylltu â phobl sy’n profi gwahaniaethu neu anfantais yng Nghymru.