Ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth

Gweledigaeth Diverse Cymru yw helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu, ble mae pawb yn gydradd a chaiff amrywiaeth ei ddathlu.

Ein cenhadaeth yw diddymu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb drwy:

Darpariaeth – Darparu gwasanaethau sy’n lleihau anghydraddoldeb ac yn hybu annibyniaeth

Hyrwyddo – Codi ymwybyddiaeth ynghylch materion cydraddoldeb

Cyfranogiad – Galluogi pobl y mae anghydraddoldeb yn effeithio arnynt i ymgysylltu â phenderfynwyr a siarad drostynt eu hunain

Ysbrydoli gweithredu – Ysgogi pobl i weithredu yn erbyn anghydraddoldeb

Ein Hanes

Crëwyd Diverse Cymru yn 2011 drwy uno dau sefydliad, Cardiff and Vale Coalition of Disabled People ac Awetu.

Fe’i crëwyd mewn cydnabyddiaeth i’r anawsterau a’r gwahaniaethu y mae pobl sy’n profi anghydraddoldeb yng Nghymru yn eu hwynebu.

Crëwyd y Cardiff & Vale Coalition of Disabled People (CVCDP) yn 1991. Fe’i sefydlwyd o’r cychwyn cyntaf fel sefydliad o bobl anabl a oedd yn gallu herio rhwystrau, dod â phobl anabl ynghyd i ymgyrchu ar faterion perthnasol fel addysg, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth yn ogystal â chryfhau lleisiau pobl anabl yn y gymuned ac ar lefel gwneud penderfyniadau.

Am fwy nag 20 mlynedd, parhaodd CVCDP i ymgyrchu dros hawliau pobl anabl yng Nghymru a datblygodd ei waith mewn meysydd eraill yn cynnwys darparu gwasanaethau, gwasanaethau ymgynghoriaeth, hyfforddiant a lobïo. Yn ystod ei bum mlynedd ddiwethaf, dechreuodd CVCDP ddefnyddio ei wybodaeth a’i arbenigedd fel sefydliad i ehangu ei weithgareddau i feysydd cydraddoldeb eraill.

Pan ddechreuodd CVCDP y broses o droi’n Diverse Cymru’n swyddogol yn 2010, roedd gan y sefydliad 500 o aelodau, 3000 o gefnogwyr, ac roedd yn ymateb i fwy na 4000 o ymholiadau am wybodaeth bob blwyddyn.

Sefydlwyd Awetu (y gair Swahili am ‘Ein Hundod’) yn 1988 o ganlyniad i bryder cynyddol ymysg llawer o weithwyr proffesiynol ynghylch trosgynrychiolaeth cleientiaid duon mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a’r angen i wella sensitifrwydd y gwasanaethau hyn er mwyn gwasanaethu anghenion pobl dduon yn well.

Wrth i’r sefydliad ddatblygu, ymdrechodd Awetu i gefnogi holl Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a oedd yn wynebu problemau iechyd meddwl yng Nghymru drwy ddarparu ei wasanaethau ei hun, trwy ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarparwyd gan eraill i’w gwneud yn fwy effeithiol a sensitif i anghenion eu defnyddwyr, a thrwy fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Drwy gydol y 23 mlynedd y bu mewn bodolaeth, parhaodd Awetu i fod yr unig grŵp iechyd meddwl ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ac fe’i cydnabuwyd yn arweinydd yn ei faes.

Rhoddwyd Gwobr Health Impact GlaxoSmithKline i’r sefydliad yn 2001, enillodd Wobr Amrywiaeth Cymru am dair blynedd yn olynol yn 2001 – 2003, ac Awetu oedd Elusen y Flwyddyn y Guardian yn 2006.

d was awarded the GlaxoSmithKline Health Impact Award in 2001, the Wales diversity Award for three consecutive years 2001-2003 and Guardian Charity of the year in 2006.