Rydym yn cefnogi pobl i sicrhau eu hawliau, i ddilyn eu diddordebau ac i’w helpu i gael gafael ar y gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth eiriolaeth digidol annibynnol am ddim i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl rydym yn eu cefnogi, gan gadw eu hochr, ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:
- Cael gafael ar wybodaeth.
- Canfod pa opsiynau sydd gennych
- Cael dweud eich dweud ar yr hyn sy’n bwysig i chi
- Sicrhau’r gofal cymunedol y mae ei angen arnoch
- Apelio penderfyniadau nad ydych yn cytuno â nhw
- Eich cefnogi i gael gafael ar gartref hygyrch
- Gwneud cwynion am wasanaethau
- Rhoi gwybodaeth am fudiadau eraill a allent o bosibl gynnig cefnogaeth ichi
Gallwn ddarparu gwasanaeth a chefnogaeth i bobl ar y ffôn neu drwy ebost ynghylch:
- Pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w derbyn
- Pa help neu gefnogaeth sydd ar gael i chi
- Sut gallwn eich helpu i leisio eich dewisiadau a’ch penderfyniadau
- Pa safonau y gallwch eu disgwyl yn y gwasanaethau rydych yn eu derbyn
- Mynegi pryderon neu wneud cwynion am wasanaethau.
- Cefnogaeth i herio penderfyniadau
Ffôn: 07376 69 58 58 / 029 2036 8888
Ebost: advocacy@diverse.cymru
Ar gyfer eich gwasanaethau Eiriolaeth ym Mro Morgannwg:
Ffôn 0808 081 0577 (Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro) neu
Ebost: info@diverse.cymru
Yr hyn na allwn ei wneud yw:
- Gweithredu heb eich caniatâd
- Pasio gwybodaeth ymlaen heb eich caniatâd
- Gweithredu fel cwnselydd, gweithiwr cymdeithasol nac ymgynghorydd cyfreithiol
- Gwneud penderfyniadau ar eich rhan
Y ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio
Byddwch yn gallu cael cefnogaeth gan eiriolwr profiadol sy’n anfeirniadol, yn parchu eich anghenion, eich barn a’ch profiadau, ac a fydd yn gwrando, yn cynnig dewisiadau ac yn eich grymuso.
Bydd eich eiriolwr yn eich cynorthwyo i gasglu gwybodaeth berthnasol ac egluro’r opsiynau sydd ar gael i chi er mwyn ichi allu gwneud eich dewisiadau a’ch penderfyniadau eich hunan.
Byddwn yn gweithredu ar eich cyfarwyddiadau chi’n unig, ac ni wnawn gymryd unrhyw gamau yn erbyn eich dymuniadau. Gallwch roi cyfarwyddyd i’ch eiriolwr ysgrifennu llythyrau, siarad gyda phobl ar y ffôn neu wyneb yn wyneb ar eich rhan. Gall eich eiriolwr eich cefnogi i eirioli drosoch eich hunain neu eich cynrychioli mewn cyfarfodydd, yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r awdurdodau.
Ein Gwasanaethau Eiriolaeth
Mae Diverse Cymru’n gweithio yn unol â Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae’n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol am ddim i ddefnyddwyr anabl y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Oedolion ym Mro Morgannwg.
Mae gwasanaeth Eiriolaeth Diverse Cymru’n gweithio i gefnogi pobl i gael dweud eu dweud, sicrhau eu hawliau, dilyn eu diddordebau ac i’w helpu i gael gafael ar y gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl rydym yn eu cefnogi, gan gadw eu hochr, ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Darperir ein gwasanaeth yn unol â’r Siarter Eiriolaeth, gan gynnal ei egwyddorion: Eglurder Pwrpas, Annibyniaeth, Cyfrinachedd, Rhoi Pobl Gyntaf, Grymuso Pobl, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Hygyrchedd, Atebolrwydd, Cefnogi Eiriolwyr a Diogelu Pobl.
Lawrlwythwch gopi o’r Siarter Eiriolaeth
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’r Siarter Eiriolaeth
“Dawn Ashton is a credit to your organisation with her extensive knowledge, experience and professionalism”
“The professionalism of my advisor was invaluable in helping me through the confusing and stressful experience of my PIP review”
“I can only thank you again for the work you put in for me and the results you got for me”
“Dawn has been outstanding in the help she has provided, and we would thoroughly recommend Diverse Cymru to anyone”
“Keep up the excellent work. You are worth your weight in gold”