Mae Diverse Cymru’n cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi rhagorol a gydnabyddir yn rhai o safon, gweler isod am ragor o fanylion am y sesiynau’r ydym yn eu cynnig.

Yn yr hyfforddiant hwn, cewch archwilio rôl amrywiaeth yn eich sefydliad ac mewn cymdeithas a sut i wella eich arferion o ran amrywiaeth.

Deilliannau dysgu 

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth drafod cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Deall y gwahanol grwpiau o nodweddion gwarchodedig
  • Deall yr hyn mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei olygu’n ymarferol
  • Deall sut mae amrywiaeth yn gweithio mewn sefydliadau a chymunedau
  • Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gwahaniaethu, ac addasiadau rhesymol
  • Deall sut i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Myfyrio ar sut mae stereoteipio’n gweithio
  • Deall sut a phryd i herio anghydraddoldeb a gwahaniaethu

Bydd y gweithdy rhyngweithiol a chyfranogol hwn yn eich cynorthwyo i fynd i’r afael â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer eich holl staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Gellir cynnal y cwrs dros hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Mae’r opsiynau ar gyfer y cwrs diwrnod llawn yn cynnwys un o’r canlynol:

  • Gweithio drwy brosiect neu wasanaeth penodol yr ydych yn ei ddatblygu
  • Sesiwn fer ar ymwybyddiaeth rhagfarn ddiarwybod
  • Sesiwn fer ar ymwybyddiaeth egwyddorion ac ymarfer hawliau dynol
  • Sesiwn penodol ar gyfer rheolwyr ar gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion rheoli

Yn yr hyfforddiant hwn, deall pwy sy’n destun y ddeddfwriaeth (grwpiau nodweddion gwarchodedig) a sicrhau cydymffurfio o ran cyflogaeth a gwasanaeth cwsmer.

Amcanion dysgu 

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gan gyfranogwyr fwy o ddealltwriaeth ynghylch:

  • Pwy mae’r Ddeddf yn ymdrin â hwy (nodweddion gwarchodedig)
  • Y mathau o wahaniaethu sy’n anghyfreithlon
  • Pa bryd gellir mabwysiadu mesurau gweithredu cadarnhaol
  • Pa bryd mae’n iawn gwahaniaethu (yn cynnwys gofynion galwedigaethol)
  • Ystyr addasiadau rhesymol a pha bryd maen nhw’n berthnasol
  • Cyfrifoldebau ac atebolrwydd cyflogwyr neu ddarparwyr gwasanaethau
  • Sut gellir rhoi Deddf Cydraddoldeb 2010 ar waith

Caiff adran ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau penodol i Gymru yn cael ei ychwanegu at y cwrs hwn ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau a gomisiynwyd gan neu ar ran sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Mae’r cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i unigolion sy’n ymwneud â recriwtio neu reoli staff a’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau, ynghyd ag i gynrychiolwyr undebau llafur.

Yn yr hyfforddiant hwn, cewch ddod i wybod pa bryd fydd angen ichi newid y ffordd y caiff pethau eu gwneud, pa bryd i wneud newidiadau i oresgyn rhwystrau a grëir gan nodweddion ffisegol eich sefydliad, a pha bryd i ddarparu offer ychwanegol neu gymorth.

Deilliannau dysgu 

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr:

  • Yn meddu ar fwy o ymwybyddiaeth ynghylch y ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol i weithwyr anabl
  • Wedi meithrin dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
  • Wedi gwella eu dealltwriaeth o’r anfanteision a’r rhwystrau mae staff anabl yn eu hwynebu (o bob un o’r 5 o grwpiau namau) a’r atebion posibl i’w goresgyn   Wedi canfod gan bwy mae’r hawl i addasiadau rhesymol, pa bryd mae eu hangen a phwy sy’n gyfrifol am hyn
  • Yn deall pa gamau i’w cymryd os nad yw cyflogwr yn gwybod fod person yn anabl a/neu os nad yw’r person anabl wedi hysbysu’r cyflogwr o’i nam a’i natur.
  • Yn meddu ar well dealltwriaeth o’r amrywiaeth o addasiadau y gellir eu gwneud
  • Wedi ystyried canlyniadau methiant i wneud addasiadau rhesymol yn y gwaith

Wedi datblygu cynllun gweithredu sy’n rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith

Yn yr hyfforddiant hwn, byddwch yn dod i ddeall y rhwystrau a wynebir gan bobl anabl ac atebion ar gyfer hygyrchedd.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Deall beth yw model cymdeithasol anabledd
  • Gallu rhoi meddylfryd y model cymdeithasol ar waith
  • Deall y diffiniad cyfreithiol o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb 2010
  • Deall gwahanol grwpiau namau a’r ystyriaethau angenrheidiol
  • Deall mwy am iaith a moesgarwch yn ymwneud ag anabledd
  • Deall mwy am rwystrau ac atebion o ran hygyrchedd a chynhwysiant
  • Cynllunio camau gweithredu i wella hygyrchedd a chynhwysiant yn eich sefydliad eich hun

Yn yr hyfforddiant hwn, cewch ddeall beth yw rhagfarn ddiarwybod a sut mae’n effeithio ar gyflogaeth, arferion yn y gweithle, a darpariaeth gwasanaeth.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Myfyrio ar eu rhagfarn ddiarwybod eu hunain
  • Deall diffiniad rhagfarn ddiarwybod
  • Deall y mathau o ragfarn ddiarwybod
  • Deall yr amrywiaeth o sefyllfaoedd ac arferion yn y gweithle y mae rhagfarn ddiarwybod yn effeithio arnynt
  • Deall effaith rhagfarn ddiarwybod ar eu harfer proffesiynol
  • Deall effaith rhagfarn ddiarwybod ar gydweithwyr; cwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth; cynllunio gweithredol; a rhanddeiliaid allanol

Hybu ymwybyddiaeth am sut i liniaru a rheoli rhagfarn ddiarwybod yn effeithiol

Yn yr hyfforddiant hwn, cewch ddysgu sut i gynnal EIA (Equality Impact Assessment) ar eich polisïau a’ch rhaglenni.

Deilliannau dysgu 

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall pwy mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymdrin â hwy (nodweddion gwarchodedig)
  • Dysgu sut i gynnal EIA a’r materion y mae angen eu hystyried
  • Deall y risgiau posibl o fethu â chynnal EIA neu benderfyniadau annheg a wneir ar sail EIA
  • Deall y math o ddata a gwybodaeth angenrheidiol i gynnal EIA
  • Deall pa bryd dylid cynnal EIA
  • Deall pwysigrwydd cynhwysiant ac ymgynghori yn y broses hon
  • Archwilio’r defnyddiau posibl o Asesiadau Effaith Integredig
  • Archwilio cysylltiadau â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae’n well gennym seilio ymarferion rhyngweithiol ar y cwrs hwn ar eich polisi, proses a ffurflenni EIA neu asesiad effaith integredig chi.

Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich dealltwriaeth o hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd a thrawsrywedd a’r materion y mae pobl drawsryweddol yn eu hwynebu fel gweithwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Deall y gwahaniaeth rhwng Hunaniaeth o ran Rhywedd, Mynegiant Rhywedd, Rhywedd Biolegol a Chyfeiriadedd Rhywiol
  • Deall pam mae’n bwysig defnyddio terminoleg addas, nad yw’n tramgwyddo
  • Asesu effaith stereoteipiau, rhagfarn a gwahaniaethu
  • Herio mythau a chamsyniadau cyffredin
  • Adnabod a deall hawliau cyfreithiol pobl trawsryweddol mewn cyflogaeth ac fel cwsmeriaid
  • Lleihau a diddymu unrhyw ofnau neu gamddealltwriaeth
  • Deall y ‘Llwybr Trawsnewid’ a sut gall effeithio ar lesiant ac iechyd person trawsryweddol
  • Ymwybodol o newidiadau i bolisi ac arfer y gellid bod eu hangen yn eich adran a’ch rôl eich hunan.
  • Gallu rhoi newidiadau i bolisi ac arfer ar waith sy’n gwella profiad staff a chwsmeriaid trawsryweddol
  • Gwybod ble i fynd i gael mwy o gefnogaeth

Bydd y cwrs hwn yn archwilio profiadau pobl o homoffobia a biffobia a’r effeithiau arnynt, a sut gall sefydliadau fod yn fwy cynhwysol o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Gallu diffinio cyfeiriadedd rhywiol
  • Deall yr amrywiaeth o derminoleg a ddefnyddir gan bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol
  • Deall pam mae’n bwysig defnyddio iaith addas, nad yw’n tramgwyddo
  • Asesu effaith stereoteipiau, rhagfarn a gwahaniaethu
  • Gallu herio mythau a chamsyniadau cyffredin ynghylch pobl LHD
  • Deall rhai o’r materion cyffredin y mae pobl LHD yn eu hwynebu mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth
  • Ymwybodol o newidiadau i bolisi ac arfer y gellid bod eu hangen yn eich adran a’ch rôl eich hunan.

Gallu rhoi newidiadau i bolisi ac arfer ar waith sy’n gwella profiad staff a chwsmeriaid LHD

Yn yr hyfforddiant hwn, cewch ddeall ffactorau sy’n llunio diwylliant, newidiadau diwylliannol mewn cyfathrebu, teulu a rhywedd, a rhoi hwb i’ch hyder ar gyfer rhyngweithio o ddydd i ddydd gyda phobl o amrywiol gefndiroedd.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • Deall ffactorau sy’n llunio diwylliant
  • Ystyried esiamplau o wahaniaethau diwylliannol, fel: cyfathrebu, teulu a rhywedd
  • Meithrin hyder i ymdrin â gwahaniaethau diwylliannol

Cyflwyniad i adnabod arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl cyffredin a sut i hybu iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.

Deilliannau dysgu

Bydd y cwrs yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredinol o:

  • Drallod meddyliol/emosiynol ac iechyd meddwl
  • Natur a graddau stigma a gwahaniaethu
  • Arwyddion a symptomau iselder, pryder, hunan-anafu ac anhwylderau seicotig
  • Ffactorau risg a chyfraddau hunanladdiad
  • Llwybrau at adferiad

Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoledig Ethnig